top of page

     Wedi i Bleddyn, Bethan ac Elan golli Efan newidwyd enw Cronfa Efan i Elusennau Efan. Nod Elusennau Efan yw codi arian yn achlysurol a hyn oll yn enw ac er côf am Efan. Mae arian eisioes wedi’w roi i elusennau y bu i Efan a’r teulu elwa ohonnyn nhw ond yn y dyfodol dymuna’r teulu godi arian at elusennau lleol.

 

 

Arian a godwyd eisioes:-

£1,000 at Ward Dewi, Ysbyty Gwynedd

£4,500 at ysbyty plant Manceinion

£4,500 at chILD Lung foundation

£2,000 at Paediatric Intensive Care

£5,000 at Ronald McDonald House

£700 at JUMP Children's Charity

£200 at RNLI Porthdinllaen

£200 at Uned gofal arbennig babis, Ysbyty Gwynedd

£2,000 at Cerddwn Ymlaen 2014- Ambiwlans Awyr

£400 Little Princess Trust

£1135- at chILD Lung Foundation- Er cof am Efan ar ei benblwydd/ Pasg ac apel e-gerdyn 'Dolig

£1,000- cyfeillion Ty Gobaith- Pen Llyn

£2,000-er cof am Irene, Gellidara- at Gafael Llaw

£100- Noson elusennol Macmillan Anti Buddug

£200- Brecwast tuag at Derwen a Sefydliad y Galon

£500-Make a Wish

£150- Tuag at driniaeth cancr Donna McClelland

£900- tuag at SANDS Gwynedd

£16,548- tuag at RonaldMcDonaldHouse Manceinion

 

Elusennau Efan

bledd a bethan cheque ronald mcdonald
cheque picu
cheque ysbyty

Bleddyn a Bethan yn cyflwyno siec yn Ronald McDonald House

Bleddyn a Bethan yn cyflwyno siec yn PICU Ysbyty Plant, Manceinion

Bleddyn, Bethan ac Efan yn cyflwyno siec i Alwyn Hughes, cyfarwyddwr Ysbyty Plant Manceinion

JUMP children's charity

   Ychydig ddyddiau cyn i Efan farw cafodd Bleddyn, Bethan Elan ac Efan dynnu lluniau yn PICU gan ffotograffydd elusen JUMP. Cawsant albwm yn anrheg gan JUMP yn llawn lluniau amhrisiadwy. Mae'r elusen yma yn tynnu lluniau o blant gwael iawn a'u teuluoedd, mae'r elusen yn golygu llawer i deulu Efan.

RonaldMcDonaldHouse

    Elusen arall sy'n agos at galon y teulu! Cafodd Bleddyn, Bethan ac Elan ystafell en-suite i aros ynddi o Fis Awst hyd nes Rhagfyr 2012 yn RonaldMcDonaldHouse. Mae ceginau, ystafelloedd ymlacio, gardd ac offer golchi dillad yno, ond yn bwysicach i’r teulu roedd yn le i allu dianc o PICU a cheisio anghofio’r poen meddwl am ychydig. Roedd Elan yn cael dod i aros fel bod rhyw fath o normalrwydd iddi hithau hefyd! £25 yw cost llofft i deulu yn RonaldMcDonaldHouse am y noson. Mae’r teulu wedi rhoi £5,000 hyd yn hyn a wedi cael noddi eu llofft er cof am Efan, prynwyd ffynnon ddŵr i’r ardd hefyd.

chILD Lung Foundation

chILD Lung foundation Pan gafodd Efan ddiagnosis o SDP-C doedd staff Meddygol lleol erioed wedi clywed am y fath gyflwr prin. Doedd dim amdani ond i’r teulu chwilio am wybodaeth ar y we! Ni ddaru’r teulu allu darganfod gwybodaeth am SDP-C nes oedd Efan yn wael iawn yn PICU yn 2012 a daeth ffrind i’r teulu ar draws gwefan y chILD Lung foundation.Roedd y wefan arbennig yma yn cynnig gwybodaeth am y sbectrwm o afiechydon ysgyfaint i blant. Ar wefan a facebook y chILD lung foundation daeth Bethan i gyfarfod â rhieni efo phlant â’r ‘run cyflwr, cafodd wybodaeth bwysig am y cyflyrau ac am y tro cyntaf teimlodd Bethan fod Efan yn ‘normal’ i blentyn SDP-C a nad oedd hi wedi bod yn dychymygu symptomau. Bu’r rhieni chILD yn gefn mawr i Bleddyn a Bethan ac yn parhau i fod. Rhoddwyd rhodd o £4,500 iddynt. Does fawr o arian yn cael ei wario ar chwilio am wellhad i afiechyd ysgyfaint plant ond mae’r elusen arbennig yma yn cynnig tawelwch meddwl a chynhaliaeth i rieni. Mae’nt hefyd yn helpu teuluoedd trwy fenthyg offer ocsigen symudol am ddim.

Ysbyty Plant Manceinion RMCH

Paediatric Intensive Care PICU

    Mae Ward PICU (Paediatric Intensive Care Unit) yn elusen ynddoi’i hun, dyma’r ward ICU fwyaf i blant yn y wlad a chanddi 21 o welyau. Gall wely yn PICU gostio £1,000 a mwy y dydd oherwydd fod y gofal nyrsio yn 1 neu 2 i bob claf. Mae cost cyffuriau, triniaethau a staffio yn aruthrol, yno ceir timau o arbennigwyr chwarae plant, peiriannwyr ventilators arbennigol, physiotherapists, deietygyddion heb son am y Doctoriaid gyda’i harbenigedd. Treuliodd Efan a’i rieni fisoedd yn PICU a roedd yn agoriad llygaid beth oedd gwerth y gofal yno. Rhoddwyd £4,500 i ysbyty plant Mancienion a £2,000 i ward PICU, defnyddiwyd yr arian tuag at brynu peiriant sgan symudol i ward PICU.

© 2023 by My site name. Proudly created with Wix.com

  • Facebook Classic
  • Twitter Classic
  • Google Classic
  • RSS Classic
bottom of page