top of page

Sefydlu Cronfa Efan

Great Manchester Run 2012

     Yn 2011 rhedodd Bleddyn ac Ems ei ffrind y Great Manchester Run, casglwyd £5,500 gan y ddau a rhoddwyd rhan o’r arian i Ysbyty Plant Manceinion a rhan arall i Ward Dewi, Ysbyty Gwynedd, prynwyd monitor ocsigen yno.

     Yn ystod Haf 2012 penderfynnodd Owain, cefnder Efan a’i ffrind Gutun redeg hanner mararthon Caerdydd ac agor cyfrif banc o’r enw Cronfa Efan. Wedi i'r hogia' ddechrau casglu dechreuodd bobl eraill helpu hefyd. Bu pobl yn hynod garedig yn casglu arian, yn wreiddiol nod Gutun ac Owain oedd casglu arian ar gyfer offer arbenigol ayyb.

     Yn ddiweddarach yn 2012 gwaethygodd cyflwr Efan, bu’n raid ei symud i PICU Ym Manceinion, bu Bethan yn byw ym Manceinion am fisoedd efo Efan. Buom yn ffodus o gael ystafell en-suite i aros ynddi o Fis Awst tan Rhagfyr yn Ronald Mc Donald House. Yno, roedd gegin ac ystafelloedd ymlacio, gallai Elan ddod yno i aros atom ar benwythnosau. Roedd cyfleusterau arbennig fel peiriant golchi dillad a chegin yno, yn bwysicach fyth roedd ffôn wrth ochr y gwely i mi allu redeg i PICU yng nghanol nos pan oedd angen.

      O glywed ein hanes daeth ysgolion, ysgolion Sul, Clybiau peldroed, swyddfeydd a llu o bobl eraill o phell ac agos at eu gilydd i gyfrannu tuag at Gronfa Efan.

Ems a Bledd

Denbigh Town F.C yn rhoi siec

bleddyn denbigh town fc

© 2023 by My site name. Proudly created with Wix.com

  • Facebook Classic
  • Twitter Classic
  • Google Classic
  • RSS Classic
bottom of page