Elusennau Efan
"Efan-cyfoethogaist ein bywydau!"
Er nad oedd Doctoriaid Efan yn gallu rhoi prognosis roedd pawb yn ffyddiog y byddai ysgyfaint Efan yn cryfhau gan fod rhai plant eraill efo’r ‘run cyflwr yn hŷn nag Efan ac wedi gallu cryfhau.
Ond yn Awst 2012 dechreuodd Efan anadlu’n gynt na’r arfer ac yn amlwg nad oedd llif yr ocsigen yn ddigon iddo. Ddiwedd fis Awst aethpwyd ag ef i Fanceinion, dirywiodd ei anadlu o fewn dyddiau a rhoddwyd ef ar y Ventilator yn PICU.
Bu Meddygon o bob cwr o’r byd yn pendroni beth oedd achos y dirywiad, treialwyd pob math o gyffuriau a phrofion a ddim byd yn helpu. Rhoddwyd scan MRI iddo a darganfuwyd fod y difrod yn ei ysgyfaint wedi gwaethygu’n sylweddol.
Cafodd bwl o fod fwy sefydlog ac wedi wythnosau o ddod at ei hun wedi’r holl gyffuriau cysgu medrodd ymdopi ar ventilator symudol. Cafodd lawdriniaeth i gael tracheostomy a’r ventilator yn rheoli ei ysgyfaint drwy’r tracheostomy. Llwyddodd i ail-ddysgu siarad ambell air fel Dad, Mam, Nenan, Bob a diod, ac ar ddiwrnodiau da mi allodd sefyll a dal ei bwysau.
Roedd yn mwynhau mwythau ar lin Dad neu Mam ac wrth ei fodd pan fyddai Elan neu deulu a ffrindiau yn dod ar benwythnos i’w weld. Y cynllun tymor hir oedd cael dod ag Efan adref ar ventilator symudol. Roedd y broses hon yn un hir, weithiau bron i flwyddyn erbyn asesu’r cartref, treinio nyrsus a ni i edrych ar ei ôl ayyb Roedd yn gyfnod hunllefus, bod yn bell o adref a phob diwrnod yn sialens ofnadwy, un cam bach ymlaen a dau gam mawr yn ôl, gobeithio y byddai un ffisig yn gweithio ac yna'r siom o fethiant.
Cafwyd trafodaethau hir rhwng Ysbyty Great Ormond Street am y posibilrwydd o drawsblaniad ysgyfaint ond oherwydd oed Efan, maint y driniaeth, ystadegau goroesi a chostau -gwrthodwyd yr opsiwn yma. Tua ganol Fis Rhagfyr dirywiodd cyflwr ei ysgyfaint eto a roedd angen 15litr o ocsigen arno, dyma’r llif uchaf o ocsigen a ellir ei roi i glaf! Cafodd Bleddyn, Bethan ac Elan gyfarfod efo’r Consultants a Doctor Palliative care a phenderfynwyd nad oedd mwy i’w wneud. Cafodd Efan fynd i’w wely nos Wener 14.12.12 yn gafael yn llaw Dad, Mam ac Elan a bu farw yn dawel a dewr. Dywedodd Dr Samuel o PICU:-
“Efan– you graced our lives!”
Roedd Efan wedi gwneud argraff fawr ar nyrsus a Doctoriaid PICU, mae’r rhan fwyaf o gleifion yno fel arfer yn anymwybodol ond oherwydd natur salwch Efan roedd Efan yn cael chwarae ar fatiau arbenning ar lawr a chael bwyd, diod a bath yn ei ystafell. Byddai’n codi bawd ar bawb ac yn hoffi gwisgo dillad gwisg ffansi a chael hwyl.
Yn ystod ein noson olaf yn PICU daeth nyrsus a Doctoriaid i mewn ag allan drwy’r nos i ffarwelio a chael roi sws iddo– gymaint oedd ei argraff arnynt. Y diwrnod canlynol cawsom lawer o gymorth gan staff PICU, Yncl Dyfed, Anti Sian a Pritchard a Griffiths (Ymgymerwyr o Dremadog) i allu dod ag Efan yn ol adref yn ol i 2 Fryn Glas am y tro olaf.