top of page


Elusennau Efan
Bywyd adref
Doedd bywyd yn gaeth i ocsigen ddim yn un hawdd, roedd angen silindrau ocsigen ar Efan pan yn mynd allan o’r tŷ ac adref roedd ganddo beiriant ‘Concentrator’ oedd yn newid aer yn ocsigen. Golyga hyn fod Efan yn sownd i bibell ocisgen drwy’r amser, roedd hyn yn gallu bod yn rhwystredig iawn iddo ond gwenu a codi bawd fyddai’n wneud bob amser.
Doedd bwytau ac yfed ddim yn dod yn hawdd i Efan, roedd anadlu a chydgordio’r llyncu yn ei flino a byddai’n pesychu a thagu ar y bwyd yn hawdd. Roedd amser bwyd (rhywbeth naturiol mewn cartrefi eraill) yn amser dychrynllyd i Bleddyn a Bethan, byddai Efan yn tagu ar ei fwyd ac yn mygu yn aml iawn. Roedd hefyd yn gorfod yfed llefrith arbennig uchel mewn caloriau a phan yn cael pyliau o fod yn wael roedd raid iddo gael ei fwydo drwy bibell bwydo NasoGastric (pibell drwy’r trwyn a lawr i’r stumog)
Roedd Bleddyn a Bethan yn gorfod mynd ag Efan i Fanceinion unwaith y mis am dridiau o gwrs IV o steroids cryf. Pwrpas y steroids oedd i wanhau’r system imiwnedd yn y gobaith y byddai hyn yn arafu’r corff rhag geisio gwella a chreu creithiau yn yr ysgyfaint. Oherwydd fod y steroids yn gwanhau y system imiwnedd golyga hyn fod Efan yn gallu codi anwyd yn hawdd, byddai cael y frech goch, whooping cough ayyb wedi bob yn beryg bywyd felly doedd dim amdani ond swatio yn y tŷ.
Serch yr anhawsterau hyn roedd y teulu’n byw bywyd i’r eithaf, aethon nhw i DisneyLand Paris ac am wyliau carafan sawl gwaith. Byddai Efan yn gwirioni cael gwneud pethau rydym yn aml yn gymeryd yn ganiataol- mynd ar ei feic neu yn y pram i nôl Elan o’r ysgol.



bottom of page