Elusennau Efan
Misoedd Cyntaf
Ganwyd Efan Wyn Evans ar Fore Sul, Mawrth 26ain 2011, roedd yn pwyso 8 pwys a cafodd Elan ei chwaer fawr ddod i’w nôl bnawn Sul efo Bleddyn eu Tad.
Bu Efan yn araf iawn yn magu pwysau a Bleddyn a Bethan (mam Efan) nôl a ‘mlaen at y Doctor yn aml. Roedd ganddo beswch sych drwy’r amser ac yn cael pyliau o anadlu’n gyflym. Byddai ‘n anadlu rhwng 60-80 gwaith y funud.
Bu’n gyfnod poenus iawn ac yn y diwedd pan oedd Efan yn tua 6 mis oed aethpwyd ag ef i’r Uned Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd. Yno y darganfuwyd fod lefel yr ocsigen yn ei gorff yn isel iawn, bu am ychydig o ddyddiau mewn ‘incubator ocsigen’ ond doedd ddim gwellhad. Penderfynwyd anfon am dîm cludo plant ar frys sef tîm NEWTS. Rhoddwyd Efan i anadlu ar y ventilator yn Ysbyty Gwynedd a chludwyd ef i’r gwely ‘Intensive Care’ agosaf ar y pryd, sef PICU ym Manceinion
Cafodd brofion di-ri tra yn Ysbyty Brenhinol y Plant ym Manceinion. Roedd Consultants o lawer o adrannau yn dod i’w weld nes yn y diwedd daeth yn amlwg fod rhywbeth o’i le ar ei ysgyfaint. Roedd pelydr-X yn dangos cysgodion annesboniadwy ar ei ysgyfaint, yr unig ffordd i ddarganfod gwraidd hyn oedd agor ei ysgyfaint i weld.
Bu Efan yn wael iawn yn dilyn y driniaeth yma ond darganfuwyd fod interstisiwm yr ysgyfaint yn galed a lliw melyn, lle dylai fod yn feddal a lliw pinc. Roedd y Consultant yn amau ei fod yn dioddef o gyflwr prin o’r enw ‘Surfactant deficiency– Protein C’.
Wedi wythnosau o ofal yn PICU daeth cyflwr Efan yn fwy sefydlog ac wedi 2 fis ym Manceinion cafodd ddod adref ond yn ddibynol ar ocsigen. Dyddiau yn ddiweddarach cawsom alwad ffôn yn cadarnhau mai’r diagnosis oedd SDP-C, afiechyd prin iawn ac ond llond llaw o blant ym Mhrydain efo’r un cyflwr. Does ddim gwellhad i SDP-C, yr unig feddyginiaeth yw steroids a bydd plant fel rheol angen ocisgen.
Afiechyd Interstisiwm yr Ysgfaint
Enw ar grwp o afiechydon prin yw Afiechyd Interstisiwm yr Ysgyfaint (AIY). Mae'r afiechydon hyn yn effeithio meinwe penodol o'r ysgyfaint a elwir yr Interstisiwm. Enw'r math o AIY oedd gan Efan oedd Surfactant deficiency Protein-C. Doedd ei ysgyfaint ddim yn cynhrychu ddigon o syrffactant a roedd y syrffactant yma yn nadu i'w ysgyfaint agor a chau fel y dylai wneud.
Oherwydd fod ysgyfaint Efan yn ceisio 'cwffio' yn erbyn y diffyg yma drwy wella ei hun roedd y corff yn achosi creithiau yn yr ysgyfaint. Does ddim triniaeth ar gyfer AIY, ond rhoddir steroids i rai cleifion. Sgil-effaith y steroids yw eu bod yn gwanhau'r system imiwnedd ond mae'nt i fod i nadu/ arafu'r corff rhag greu'r creithiau yn yr ysgyfaint.
Yr unig beth arall a ellir ei gynnig fel 'gwellhad' yw aros am drawsblaniad ysgyfaint. Nid yw trawsblaniad yn opsiwn hawdd fodd bynnag, tua hanner clefion sy'n derbyn ysgyfaint newydd sy'n goroesi a hynny yn aml am tua 5 mlynedd yn unig. Nid oedd Ysbyty Great Ormond Street yn gallu cynnig yr opsiwn yma i Efan gan ei fod o dan 3 oed. Mae'r driniaeth yn cael ei wneud yn rheolaidd yn U.D.A